Newyddion Cyngor Sir Powys | Powys County Council News

Cofion /Regards,

Rhian

Rhian Mair Jones

Headteacher/Pennaeth
Ysgol Bro Cynllaith
Llansilin

Powys

SY10 7QB

01691 791365


From: Lee Evans <lee.evans@powys.gov.uk&gt;
Sent: 14 September 2023 13:32
Subject: Newyddion Cyngor Sir Powys | Powys County Council News

Shape  Description automatically generated with medium confidence

Cynlluniau Uchelgeisiol ar gyfer Trawsnewid Addysg i gael eu hystyried

Ambitious Transforming Educations plans to be considered

14 Medi 2023

Yn dilyn ymgysylltu â’r gymuned ysgolion, bydd cynlluniau uchelgeisiol a allai drawsnewid addysg yn ardaloedd gogledd Powys, gan gynnwys hybu addysg Cyfrwng Cymraeg, gael eu ystyried gan Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn, yn ôl y cyngor.

Ar ôl cwblhau adolygiad addysg yn ardal Crug Hywel yn 2022, mae Cyngor Sir Powys am barhau i gyflenwi’r don nesaf o’i Raglen Trawsnewid Addysg, a gafodd ei ail-lansio’r llynedd ynghyd â diweddariad o weledigaeth o Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Mae’r cynlluniau diweddaraf yn cadarnhau uchelgais y cyngor i drawsnewid y sector addysg ym Mhowys, sy’n cynnwys y datblygiad arloesol y bu hir-aros amdano, sef darpariaeth uwchradd benodedig Cyfrwng Cymraeg i wasanaethau disgyblion yng Ngogledd-Ddwyrain Powys yn ogystal â datblygu rhagor o ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd i gymryd lle hen adeiladau ysgolion, a fyddai’n galluogi plant a phobl ifanc i ddysgu mewn cyfleusterau modern gan gyflawni sero net a chynnwys cyfleusterau y blynyddoedd cynnar a chymunedol. Gallai rhai ysgolion gael eu cyfuno a gallai eraill gau fel rhan o’r cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu: “Yr unig ffordd y gallwn adeiladu Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach yw drwy sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i’n pobl ifanc. Un o’r ffyrdd o gyflawni hynny yw drwy drawsnewid addysg.

“Byddai’r cynigion hyn yn gweld y cyngor yn darparu darpariaeth wedi ei chynllunio’n dda ar gyfer cynyddu cyfleoedd nifer cynyddol o blant a phobl ifanc i ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth gyflenwi cyfleusterau 21 Ganrif a fyddai’n darparu amgylchedd ble mae dysgwyr ac athrawon yn cyflawni eu potensial.

“Rwyf o’r farn bod y cynigion hyn yn bodloni nodau Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys ac yn gweithredu’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, a fydd yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da yn erbyn ein targed o gynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dyma’r cynlluniau a fydd yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu ar Ddysgu a Sgiliau’r cyngor  ddydd Mercher 20 Medi a gan Cabinet ddydd Mawrth, 26 Medi:

  • Symud Ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol i ddyfod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
  • Y ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer aildrefnu addysg yn ardal Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng.

Ysgol Bro Caereinion

Symud Ysgol Bro Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol ac altro ei darpariaeth ieithyddol fel ei bod, yn y pen draw, yn dyfod yn i fod yn lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg a fyddai’n galluogi’r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddarparu cyfoeth o gyfleodd ar hyd eu llwybrau yn y dyfodol.

Byddai’r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno gam wrth gam, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddechrau gyda Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025. Byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion nad ydynt eto yn y ffrwd Gymraeg ar ffurf cymorth ‘Trochi’ yn y Gymraeg, rhywbeth y mae’r cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth ei gyflenwi yn y sir.

Dalgylch Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng

Byddai’r ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer trawsnewid addysg yn nalgylch Llanfyllin / Gogledd Y Trallwng yn cynnwys buddsoddi cyfalaf i adeiladu tair ysgol newydd gan gefnogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm ieithyddol i wella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n bosibl y gallai rhai ysgolion gyfuno ac eraill gau fel rhan o’r ffordd ymlaen a ffefrir. Y tair ysgol a allai gau yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, Ysgol Bro Cynllaith ac Ysgol Gynradd Gymunedol Brynhafren.

“Os fydd Cabinet yn cydsynio, bydd yr holl newidiadau yn amodol ar broses statudol aildrefnu ysgolion sy’n cynnwys ymgynghoriad ag ysgolion yn eu cymunedau, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud,” dywedodd y Cynghorydd Roberts.

Er mwyn darganfod rhagor am addysg Cyfrwng Cymraeg ym Mhowys ewch i http://en.powys.gov.uk/schools a chlicio ar Cyrchfan Dwyieithog

I ddarllen diweddariad Strategaeth Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion am y Rhaglen Trawsnewid Addysg – Ton 2 (2022 – 2027) ewch i www.powys.gov.uk/transformingeducation

DIWEDD

14 September 2023

Following engagement with the school community, ambitious plans that could transform education in areas of north Powys, including boosting Welsh-medium education, will be considered by Cabinet later this month, the county council has said.

After completing a review of education in the Crickhowell area in 2022, Powys County Council is looking to continue delivering the next wave of its Transforming Education Programme, which was relaunched last year along with an updated version of the council’s Strategy for Transforming Education in Powys.

The latest plans confirm the council’s ambition to transform the education sector in Powys, which include the groundbreaking and long-awaited development of designated Welsh-medium secondary provision to serve the pupils of North-East Powys, as well as developing more Welsh-medium provision in the primary sector.

The plans also include building new schools to replace the ageing school estate, which would enable children and young people to learn in facilities that are modern and achieve net zero, with early years and community facilities also included. Some schools could be combined and others could close as part of the proposals.

Cllr Pete Roberts, Cabinet Member for a Learning Powys, said: “Securing the best start in life for our young people is the only way that we can build a Stronger, Fairer and Greener Powys. One of the ways we can achieve this is by transforming education.

“These proposals would see the council provide well planned provision for increasing the opportunities for a growing number of children and young people to become fully bilingual, fluent in both Welsh and English while delivering 21st Century facilities that would provide environments where learners and teachers thrive and reach their potential.

“I believe that these proposals meet the aims of the Strategy for Transforming Education in Powys and implement the commitments in our Welsh in Education Strategic Plan, which will enable us to make good progress against our target of increasing the number of pupils being taught through the medium of Welsh.”

The plans, which will be considered by the council’s Learning and Skills Scrutiny Committee on Wednesday, September 20 and by Cabinet on Tuesday, September 26, are:

  • Moving Ysgol Bro Caereinion along the language continuum to become a Welsh-medium school.
  • The preferred way forward for reorganising education in Llanfyllin / North Welshpool area.

Ysgol Bro Caereinion

Move Ysgol Bro Caereinion along the language continuum and alter its language provision so it eventually becomes a Welsh-medium education setting that would enable all learners to develop their language skills and become fluent in Welsh and English, providing a wealth of opportunities for their future paths.

The proposed change would be introduced on a phased basis year-by-year, starting with Reception and Year 7 in September 2025.  Additional support would be provided to pupils not yet in the Welsh stream in the form of immersive Welsh language support ‘Trochi’, which the council has successfully delivered in the county.

Llanfyllin / North Welshpool Catchment

The preferred way forward to transform education in the Llanfyllin / North Welshpool catchment would see capital investment to build up to three new schools while supporting schools to move along the language continuum to improve Welsh-medium education provision. Some schools could possibly combine and others close as part of the preferred way forward. The three schools that could close are Llangedwyn C. in W. School, Ysgol Bro Cynllaith and Brynhafren C.P. School.

“If Cabinet give the go-ahead, all changes will be subject to the statutory school reorganisation process which involves further extensive consultation with school and their communities, before any final decisions are made,” Cllr Roberts said.

To find out more about Welsh-medium education in Powys, visit http://en.powys.gov.uk/schools and click on Destination Bilingual.

To read the updated Strategy for Transforming Education 2020-2032 and details of the Transforming Education Programme – Wave 2 (2022 – 2027) visit www.powys.gov.uk/transformingeducation

ENDS

Lee Evans

Arweinydd y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Communications and Engagement Team Leader

Ffôn/Tel: 01597 826023

Croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb oedi.

You are welcome to contact us in Welsh. We will respond in Welsh, without delay.

image002.jpg

Mae’r e bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe’i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na’i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu gyda Cyngor Sir Powys ar unwaith. Mae unrhyw gynnwys nad yw’n ymwneud gyda busnes swyddogol Cyngor Sir Powys yn bersonol i’r awdur ac nid yw’n awdurdodedig gan y Cyngor.

This e mail and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact Powys County Council at once. Any content that is not pertinent to Powys County Council business is personal to the author, and is not necessarily the view of the Council.